Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo
Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality
“Fedra i ddim diolch digon i chi gyd am gynnal y cynllun chwarae drwy gydol y gwyliau…Fel mam sy’n gweithio, mae’n faich oddi ar fy ysgwydd gwybod bod ‘K’ yn cymdeithasu ac yn cael hwyl tra byddaf i yn y gwaith. Mae o wedi mwynhau’r teithiau’n fawr iawn.”
Diolch i £25,000 gan Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality, mae Menter Chwarae Plant Bonymaen wedi gallu cynnal clybiau chwarae a chlybiau ar ôl ysgol rheolaidd, cynlluniau chwarae gwyliau a gweithgareddau penwythnos, gan gynnig lle diogel a hwyliog i blant lleol a chyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon i bobl ifanc.
Nid yw gofal plant fforddiadwy, gweithgareddau cadarnhaol a bwyd iach bob amser yn hawdd eu cyrchu, yn enwedig yn ystod y gwyliau. Mae’r cyllid wedi cefnogi clybiau rheolaidd yn ystod y tymor, cynlluniau chwarae gwyliau, tripiau penwythnos, prydau poeth, a hyd yn oed profiad preswyl – i gyd i blant 5–12 oed. Yn y cyfamser, enillodd 30 o wirfoddolwyr ifanc wybodaeth am baratoi bwyd ac adeiladu sgiliau a hyder wrth arwain gemau, gan helpu’r plant iau; fe wnaethant hefyd gymryd rhan yn y broses gyfweld ar gyfer aelodau staff newydd.
Adroddodd rhieni am blant hapusach, mwy egnïol gyda phwysau mawr oddi ar eu hysgwyddau. Disgrifiodd gwirfoddolwyr eu “haf gorau erioed,” a dywedodd plant fod y tripiau, y cyfeillgarwch newydd, a’r gweithgareddau wedi’i wneud yn “ddiwrnod gorau erioed” iddynt. Tyfodd hyd yn oed pobl ifanc fel ‘C’, a oedd yn ei chael hi’n anodd ar y dechrau, trwy fentora a chefnogaeth, gan ddysgu cymryd cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau gwell.
Stories
Cadw’r drws ar agor i bobl ifanc yn Native Naext Academy
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan Postcode Lottery, wedi helpu Native Radio i dalu costau rhedeg ei stiwdio gymunedol, gan sicrhau bod y gofod yn parhau ar agor ac ar gael i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn.
Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail
Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae'r sefydliad wedi parhau â'i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a'r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.