Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys

“Roedd un fenyw ddi-briod o’r enw Barbra yn byw yn y pentref. Nid oedd ganddi unrhyw deulu a oedd dal yn fyw, ac eithrio cefnder/cyfnither bell. Roedd hi’n poeni am ei hiechyd ac roedd hi’n ymwybodol ei bod yn mynd yn anghofus. Anaml iawn y byddai’n mynd allan ac roedd hi bob amser yn edrych yn drist ac yn isel. Dechreuodd ddod i gael cinio ac yna dechreuodd gymryd mwy o ran drwy helpu i osod y byrddau ac ati, ac roedd yn amlwg ei bod hi’n hapusach o lawer.”

Mae Eglwys Dewi Sant yn darparu gwasanaethau addoli Cristnogol ym mhentref Capeli Dewi ac mae’n ymgymryd â gweithgareddau a fydd yn diwallu anghenion y gymuned leol. Dyfarnwyd grant o £1,066 i’r eglwys er mwyn ei helpu i ddarparu cinio cymunedol yn neuadd eglwys y pentref bob mis ar gyfer unrhyw un yn y pentref a’r ardal leol, ond yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Dechreuodd y clwb cinio ym mis Chwefror 2017 ac mewn dim, roedd yn ddigwyddiad poblogaidd. Wrth i’r niferoedd cynyddu, roedd hi’n ddigon o her i wirfoddolwyr yr eglwys baratoi cinio gyda chyfleusterau presennol neuadd yr eglwys, felly, defnyddiwyd y grant i brynu’r cyfarpar roedd ei angen er mwyn darparu ar gyfer y digwyddiad misol hwn.

Mae cinio misol yr eglwys wedi darparu man cyfarfod rheolaidd i’r gymuned ddod at ei gilydd a chymdeithasu dros bryd o fwyd mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol sy’n addas ar gyfer teuluoedd. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl gyfarfod â hen ffrindiau ac yn rhoi rheswm i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain i fynd allan a gwneud ffrindiau newydd.

Mae’r cinio wir wedi helpu i fynd i’r afael ag ynysu ac unigrwydd. Mae’r rhai hynny nad ydynt yn gallu mynychu wir yn gwerthfawrogi galwad bob mis i weld sut maent yn teimlo a ph’un a ydynt yn gallu dod. Cafwyd rhai achosion lle y cafodd prydau eu darparu i’r bobl nad oeddent yn ddigon iach i deithio i’r neuadd.

Stories

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.

Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol drwy gefnogaeth gymunedol yng Nghasnewydd

Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol drwy gefnogaeth gymunedol yng Nghasnewydd

Rydym yn falch o gefnogi sefydliadau ledled Cymru lle mae amrywiaeth, cynhwysiant a chysylltiad cymunedol wrth galon eu gwaith bob dydd.

Cefnogi iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru

Cefnogi iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, rydym yn cydnabod gwaith hanfodol sefydliadau cymunedol ledled Cymru sy’n helpu pobl i dderbyn cefnogaeth a’u galluogi i deimlo’n well.

Pam mae dyngarwch lleol yng Nghymru yn creu effaith barhaol

Pam mae dyngarwch lleol yng Nghymru yn creu effaith barhaol

I’r rhai sydd eisiau cefnogi cymunedau yng Nghymru, mae rhoi’n lleol yn cynnig ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth gwirioneddol lle mae’r angen fwyaf.