Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru

Mae stori Shakespeare Link yn cynnig enghraifft ggwych o sut y gall cydweithio rhwng cyllidwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid lleol greu effaith ystyrlon a pharhaol.

Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru

Cymuned wrth galon creadigrwydd 

Wedi’i leoli yn y theatr awyr agored, Willow Globe, mae Shakespeare Link yn grŵp theatr sydd wedi’i wreiddio yn ei gymuned leol. Trwy raglenni cynhwysol, maent yn darparu cyfleoedd i bobl o bob oedran, cefndir a gallu i ymgysylltu â’r celfyddydau. 

Y tu hwnt i’w gweithgareddau rheolaidd, mae’r grŵp yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod â phobl ynghyd, gan gydweithio â sefydliadau eraill ar draws canolbarth Cymru i gryfhau cysylltiadau cymunedol ac ehangu mynediad at brofiadau creadigol. 

Troi cyllid i mewn i effaith 

Gyda chefnogaeth Ashley Family Foundation, llwyddodd Shakespeare Link i gynnal gŵyl natur a chelf undydd i ddathlu heuldro’r haf. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Fferm Wilder Pentwyn ar y cyd â Radnorshire Wildlife Trust, gan ddod â chreadigrwydd, natur ac ysbryd cymunedol ynghyd. 

Drwy gydol y dydd, cymerodd ymwelwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau celf a natur, gan arwain at berfformiad o A Midsummer Night’s Dream. Croesawodd y digwyddiad dros 100 o bobl (y gynulleidfa fwyaf erioed ar y safle) gan ddangos y galw am brofiadau diwylliannol hygyrch dan arweiniad y gymuned. 

Pam mae partneriaethau’n bwysig 

Mae’r prosiect hwn yn dangos gwerth partneriaeth ar bob lefel. Gall grwpiau cymunedol sy’n cydweithio ddarparu profiadau cyfoethocach a mwy cynhwysol. Ar yr un pryd, gall cyllidwyr ehangu eu cyrhaeddiad a sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n effeithiol i’r mannau lle mae’r angen fwyaf. 

Trwy ein model partneriaeth, rydym yn gweithio gyda sefydliadau fel Ashley Family Foundation i reoli a hyrwyddo cronfeydd, cynnal diwydrwydd dyladwy, a chefnogi dosbarthu grantiau – gan alluogi cyllidwyr i aros yn agos at yr achosion sy’n bwysig iddynt. 

Beth mae hyn yn ei olygu i roddwyr a grwpiau cymunedol 

I roddwyr, mae hwn yn enghraifft glir o sut y gellir troi cyllid yn effaith leol diriaethol, gan gefnogi mentrau sy’n dod â phobl ynghyd, yn meithrin creadigrwydd ac yn cryfhau cymunedau. 

I grwpiau cymunedol, mae’n tynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael drwy gyllid partneriaeth, a’r potensial i gydweithio ag eraill i wireddu prosiectau uchelgeisiol ac ystyrlon. 

Cymryd rhan 

P’un a’i os ydych yn awyddus i ariannu prosiectau sy’n bwysig i chi, neu’n chwilio am gefnogaeth ar gyfer eich menter gymunedol, rydym yma i helpu.

Iddarllenmwy am gyfleoedd cyllido, ewch i’n tudalen grantiau:

https://communityfoundationwales.org.uk/grants-overview/

Iddysgumwy am weithio gyda ni fel rhoddwr, cyfaill neu bartner, ewch i:

https://communityfoundationwales.org.uk/giving/ 

Gyda’n gilyddgallwn barhau i gefnogi cymunedau ledled Cymru, gan droi dyngarwch i mewn i newid gwirioneddol a pharhaol.

Stories

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Cronfa i Gymru

O Dde Cymru i Nashville

O Dde Cymru i Nashville

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent