Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Cronfa i Gymru

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Yn ddiweddar, gwnaethom ymweld â Silkfutures yng Nghaerdydd gyda chydweithwyr o People’s Postcode Lottery, fel rhan o’n partneriaeth i ddarparu grantiau a ariennir gan y loteri drwy Cronfa i Cymru.

Mae Silkfutures yn sefydliad ieuenctid sy’n defnyddio cerddoriaeth, creadigrwydd a gweithgareddau llesiant i gefnogi pobl ifanc i feithrin hyder, mynegi eu hunain yn ddiogel a chael mynediad at gyfleoedd na fydd yn bosibl fel arall. Mae llawer o’u gwaith yn canolbwyntio ar fechgyn a dynion ifanc, gan greu lle iddynt siarad yn agored am sut maent yn teimlo, ochr yn ochr â datblygu sgiliau creadigol.

Gwnaethom gwrdd â’r sylfaenwyr, Toni a Nathan, yn eu stiwdio recordio, sydd wedi’i lleoli mewn cynhwysydd cludo wedi’i addasu. Er ei bod yn ofod bach, mae’n llawn cymeriad, gyda’r waliau wedi’u gorchuddio â chelf a geiriau caneuon, offer recordio wedi’i osod, ac awyrgylch sy’n teimlo’n groesawgar ar unwaith. Mae’n amlwg bod hwn yn rywle lle mae pobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel.

Yn ystod yr ymweliad, cawsom gyfle i gwrdd â dau o’r bobl ifanc sy’n gweithio gyda Silkfutures ar hyn o bryd, a chlywed rhai o’r traciau maent wedi bod yn eu creu gyda’i gilydd. Roedd un gân, a oedd yn canolbwyntio ar oresgyn bwlio, yn arbennig o bwerus – yn onest, yn fyfyriol ac yn rhywbeth yr oeddynt yn amlwg yn falch ohono. Roedd yn drawiadol gweld faint o berchnogaeth oedd ganddynt dros eu gwaith, a’r ymddiriedaeth sydd ganddynt yn y gofod a’r bobl sy’n eu cefnogi.

Bu Toni a Nathan yn siarad yn agored am daith Silkfutures hyd yma, ac am bwysigrwydd cyllid hyblyg, heb gyfyngiadau. Mae’r hyblygrwydd hwn, egluron nhw, yn rhoi’r lle iddynt ddatblygu’r sefydliad mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn, gan ymateb i anghenion pobl ifanc yn hytrach na gorfod ffitio i strwythur anhyblyg. Wrth edrych ymlaen, hoffent un diwrnod gael adeilad parhaol lle gallai’r holl weithgareddau ddigwydd o dan yr un to, ac maent eisoes yn archwilio ffyrdd o amrywio eu hincwm i ddod yn llai dibynnol ar grantiau.

Ochr yn ochr â sesiynau stiwdio, mae Silkfutures hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar les corfforol. Mae gweithgareddau fel bocsio a gweithdai awyr agored yn cyd-fynd â’r gwaith creadigol, gan helpu pobl ifanc i reoli straen, meithrin gwydnwch a rhoi cynnig ar brofiadau newydd mewn amgylchedd cefnogol.

Cyn i ni adael, cawsom sgwrs fer gydag un o famau’r bobl ifanc, a rannodd pa mor fawr yw’r gwahaniaeth y mae Silkfutures wedi’i wneud i hyder ei mab. Hyd yn oed ar ôl diwrnodau anodd yn yr ysgol, dywedodd, ei bob amser yn awyddus i fynd i’r stiwdio – man lle mae’n teimlo cefnogaeth, ac yn gallu bod yn fo’i hun.

Roedd yr ymweliad yn un calonogol o’r dechrau i’r diwedd. Roedd yn amlwg faint mae’r bobl ifanc yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd maent yn eu cael, a faint o ofal sy’n mynd i mewn i greu gofod diogel a dibynadwy lle gall creadigrwydd, llesiant a hyder dyfu gyda’i gilydd.

Stories

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

“Gall y pethau bach wneud byd o wahaniaeth” – Cefnogi cymunedau drwy’r argyfwng costau byw

Banc Bwyd Rhydaman

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Dathlu Mis Pride a phwysigrwydd cefnogaeth gymunedol yng Nghymru

Rrydym yn falch o gefnogi nifer o sefydliadau sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn i wella bywydau pobl LGBTQ+ ledled Cymru.

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Sut y gall grantiau bach greu cyfleoedd sy’n newid bywydau

Pan fydd pobl yn meddwl am ddyngarwch, yn aml y rhoddion mawr a’r ymgyrchoedd codi arian sylweddol sy’n dod i’r meddwl. Ond gall symiau cymharol fach o gyllid hefyd gael effaith drawsnewidiol ar ddyfodol rhywun.