Cronfa Annette Bryn Parri

“Cerddor o’r galon”

Cronfa Annette Bryn Parri

Annette Bryn Parri

Pianydd Cymreig o fri oedd Annette Bryn Parri, a chafodd ei Gwaith a’i cherddoriaeth effaith ar fywydau llawer o bobl.

Ganed yn y gymuned Gymraeg leol yng Neiniolen, Gwynedd, a dechreuodd ei thaith gerddorol wrth y piano fel plentyn ac aeth i’r Royal Northern College of Music.

Daeth hi’n un o gyfeilyddion a chyfarwyddwyr cerddorol mwyaf parchus Cymru, gan berfformio gyda rhai o leisiau mwyaf y genedl, gan gynnwys Bryn Terfel a Rebecca Evans, ac yn cyfrannu at waith yr Opera Genedlaethol Cymru.

Roedd Annette yr un mor ymroddedig i’w chymuned. Rhoddodd ei hamser yn hael i gorau, achosion elusennol, ac i fentora cerddorion ifanc. Roedd hi’n gynnes, llawn hiwmor, a llawn bywyd, a credai mewn rhannu cerddoriaeth yn eang a’i gwneud hi’n hygyrch i bawb.

Am y Gronfa

Mae Cronfa Annette Bryn Parri wedi’i sefydlu gan ei theulu ac mae’n cael ei rheoli gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’r gronfa yn dathlu bywyd a gwerthoedd Annette drwy gefnogi cerddorion ifanc uchelgeisiol ledled Cymru, gwneud hi’n haws I bobl ifanc dderbyn cymorth, yn enwedig rhai na fydd yn derbyn y cyfleodd o’r fath, a drwy annog datblygiad cerddoriaeth a diwylliant Cymru.

Bydd grantiau o’r gronfa yn helpu gyda gwersi cerddorol, offer, a chyfleoedd hyfforddi, gan roi cyfle i gerddorion ifanc ddatblygu a ffynnu.

Roedd Annette yn credu’n gryf fod gallu cerddorol yn glalu trawsnewid bywydau. Mae’r gronfa hon yn parhau â’i gwaith drwy rymuso pobl ifanc i ddilyn eu dawn a chyfrannu at dreftadaeth cerddoriaeth gyfoethog Cymru.

Gallwch gyfrannu at y gronfa ar waelod y dudalen.

Neges gan deulu Annette

“Mae’r gronfa hon yn ffordd i ni anrhydeddu bywyd ac angerddau Annette – menyw a roddodd bopeth i gerddoriaeth, ei chymuned, a’r bobl y credai ynddynt. Trwy’r etifeddiaeth hon, rydyn ni’n gobeithio rhoi’r un anogaeth a chyfle i eraill ag a roddodd hi mor rhydd. Diolch i chi am ystyried cefnogi’r gronfa hon. Mae pob cyfraniad, bach neu mawr, yn helpu i ni barhau i ddatblygu gweledigaeth Annette – grymuso cerddorion ifanc, cyfoethogi diwylliant Cymru, a chadw ei ysbryd yn fyw trwy’r gerddoriaeth yr oedd hi’n ei charu. Diolch o galon.”
– Teulu Annette

Rhoi nawr

Cliciwch ar y ddolen isod i gyfrannu at Gronfa Annette Bryn Parri

Rhoi nawr | Donate now
Cronfa Annette Bryn Parri