Cronfa Addysg Caerdydd – Unigolion

Caerdydd, a I gyd

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae ceisiadau bellach ar agor i unigolion. Mae'r gronfa hon yn cau ddydd Llun 1 mis Medi 2025 am 12pm (hanner dydd).

Mae Cronfa Waddol Cymunedol Caerdydd yn ymbarél o gyllid a rhoddion sydd â’r nod penodol o wella addysg ac atgyfnerthu cymunedau yng Nghaerdydd. Nod y gronfa yw darparu bwrsariaethau i unigolion sydd eu hangen e.e. ar gyfer ffioedd cwrs (lle nad oes cymorth arall ar gael) a grantiau tuag at gostau deunyddiau’r cwrs a gweithgareddau. Dylai ceisiadau fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:

  • Cyrhaeddiad addysgol sy’n cynnwys dysgu gydol oes.
  • Cymorth ar gyfer unigolyn talentog ar ffurf ysgoloriaethau, deunyddiau addysgol neu adnoddau eraill.

Dylai ymgeiswyr ddangos sut y byddant yn cyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, yn enwedig o ran angen ariannol a/neu gymdeithasol. Bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu i’r rhai a fyddai fel arall yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i addysg oherwydd incwm isel teulu neu anabledd ac ati.

Grantiau ar gael

Gall unigolion wneud cais am grant hyd at £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd.

Pwy all wneud cais?

Rhoddir blaenoriaeth i unigolion sy’n dilyn addysg bellach a fynychodd ysgol uwchradd yng Nghaerdydd neu sydd wedi byw yn ardal Awdurdod Lleol Caerdydd am o leiaf 5 mlynedd, ar yr amod nad yw’r mentrau yn dod o fewn darpariaeth statudol. Mae’r gronfa yn annhebygol o ddyfarnu grantiau pellach i unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth o’r blaen gan y Gronfa hon.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

Pan fyddwch yn gwneud cais i gefnogi cwrs coleg, byddwn yn gofyn am brawf cofrestru cyn i’r cyllid gael ei ryddhau. Yn achos grantiau aml-flwyddyn, dim ond ar ôl derbyn adroddiad monitro boddhaol a phrawf cofrestru y dyfernir blynyddoedd olynol ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Dylai ymgeiswyr unigol ddarparu geirda addas a ddylai fod yn rhywun sy’n eich adnabod yn dda ond nad yw’n gysylltiedig â chi nac yn byw yn eich cartref. Gallai hyn fod yn athro neu’n diwtor, gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cymorth, eich rheolwr ac ati. Byddwn yn cysylltu â’r geirda, felly anfonwch y manylion cyswllt diweddaraf a gofynnwch am ganiatâd i’w cynnwys fel geirda ar eich cais cyn ei gyflwyno.

Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn