Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch: Sefydliadau

I gyd, a Sir y Fflint

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae Cronfa Cymorth mewn Angen Penarlâg a'r Cylch (Sefydliadau) yn cynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy'n cefnogi pobl agored i niwed.

Nodwch, mae tudalen we ar wahân ar gyfer Cronfa Cymorth mewn Angen Penarlâg ar Cylch (Unigolion) cliciwch yma

Nod Cronfa Cymorth mewn Angen Penarlâg ar Cylch (Sefydliadau) yw helpu grwpiau sy‘n cefnogi pobl agored i niwed syn byw ym mhlwyf hynafol Penarlâg.

Defnyddiwyd cyllid o Gronfa Cymorth mewn Angen Penarlâg a‘r Cylch (Sefydliadau) i:

  • brynu offer a darparu gweithgareddau ar gyfer grwpiau/elusennau cymunedol ym Mhenarlâg syn gweithio gyda phobl agored i niwed mewn angen.
  • brynu eitemau syn hanfodol i leddfu dioddefaint tlodi bwyd a thanwydd (e.e. parseli bwyd, blancedi, poteli dŵr poeth, dillad cynnes, atgyweiriadau boeleri).
  • darparu clybiau cinio, cydweithfeydd bwyd, gweithgareddau syn hyrwyddo cydlyniant cymunedol, lleihau ynysu a lliniaru tlodi.
  • talu costau craidd ar gyfer sefydliadau syn gweithio gyda phobl agored i niwed yn ardaloedd penodol.

Grantiau ar gael

Gall sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £2,000 y flwyddyn. Gall sefydliadau syn gwneud cais am brosiect cymunedol wneud cais am gyllid sawl blwyddyn.

Pwy all wneud cais?

  • Rhaid i grwpiau a sefydliadau sy‘n gweithio gyda phobl syn byw ym mhlwyf hynafol Penarlâg h.y. y prif fuddiolwyr fod or plwyf.

Mae plwyf hynafol Penarlâg yn cynnwys y wardiau modern canlynol: Aston, Gogledd Ddwyrain Brychdyn, Bwcle, Pentrobin, Ewlo, Penarlâg, Mancot, Saltney, Cyffordd yr Wyddgrug, Queensferry, Saltney Stonebridge, Sealand, Dwyrain Shotton, Shotton Higher, Gorllewin Shotton.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr syn gallu dangos yn union sut y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethaur Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cymorth gan y Gronfa hon or blaen.

Sut i wneud cais?

Mae ffurflen gais y gellir ei chyflwyno arlein. Sylwer, os ydych chin sefydliad sy’n gwneud cais i gefnogi unigolyn mewn angen, bydd angen i chi lywio ir dudalen we hon yn lle hynny.

Gwnewch yn siŵr bod prosiectau wediu lleoli ym mhlwyf hynafol Penarlâg sy‘n cynnwys y wardiau modern canlynol: Aston, Gogledd Ddwyrain Brychdyn, Bwcle Pentrobin, Ewlo, Penarlâg, Mancot, Cyffordd yr Wyddgrug Saltney, Queensferry, Saltney Stonebridge, Sealand, Dwyrain Shotton, Shotton Higher, Gorllewin Shotton.

Sylwer:

  • Ni fydd grantiau‘n cael eu dyfarnun ôlweithredol h.y. ar gyfer costau a dynnwyd cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, ac maer telerau ac amodau wediu llofnodi wediu dychwelyd.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario grantiau yn llawn o fewn blwyddyn ar ôl derbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Ni all sefydliad gael mwy nag un grant or un Gronfa. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant cyfredol.

Ffurflen gais y sefydliad

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton – Unigolion

Canolbarth a Gorllewin Cymru, I gyd a Sir Penfro

Sefydliad Addysgol John Vaughan – Unigolion

I gyd a Sir Gar

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn