Swyddog Grantiau
Dyddiad cau: 1af Hydref 2026
Oriau: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Cyflog: £29,600
Atebol i: Rheolwr Grantiau
Lleoliad: Gweithio hybrid – gweithio gartref ac yn swyddfa Caerdydd (o leiaf un diwrnod yr wythnos, gyda dydd Mawrth/Mercher yn ddiwrnodau angor pan gynhelir cyfarfodydd tîm).
Contract: Parhaol
Cyfnod prawf: Tri mis. Yn amodol ar wiriadau DBS cyn penodi.
Mae’r Tîm Grantiau wrth galon y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, gan gysylltu cyllid â’r bobl a’r cymunedau sydd ei angen fwyaf. Fel Swyddog Grantiau, byddwch yn chwarae rôl bwysig drwy ein helpu i ddarparu cyllid sy’n creu newid cadarnhaol ledled Cymru, gan gefnogi portffolio amrywiol o raglenni grant a meithrin cysylltiadau cryf â’r sefydliadau a’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw.
Byddwch yn cefnogi grantiau drwy gydol y daith rhoi grantiau, o’r ymholiad cychwynnol a’r asesiad o’r cais i gyflwyno’r grant, ei fonitro a’i werthuso, a’r adroddiadau effaith. Gan weithio’n agos gydag ymgeiswyr, deiliaid grantiau, rhoddwyr a sefydliadau cymunedol, byddwch yn helpu i sicrhau bod y cyllid yn hygyrch ac ymatebol ac yn cyrraedd y mannau lle y gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae’r rôl hon hefyd yn rhan bwysig o gyflawni strategaeth pum mlynedd uchelgeisiol y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru. Gan gydweithio â chydweithwyr ar draws y sefydliad, yn enwedig o fewn y timau Haelioni a Chyfathrebu a Marchnata, byddwch yn helpu i gyflwyno stori ein cyllid, rhannu’r effaith y mae wedi’i chael ar gymunedau, cryfhau cysylltiadau â rhoddwyr a phartneriaid, a chyfrannu tuag at dyfu ein proffil a’n llais ledled Cymru.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Claire Buckley, Rheolwr Grantiau: claire@communityfoundationwales.org.uk
Am rhagor o wybodaeth a malyion am sut i ymgeisio, lawrlwythwch y Pecyn Swydd isod os gwelwch yn dda.