Ymddiriedolwr (gwirfoddol)

Dyddiad cau: 28ain Medi 2026

Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a helpu i arwain gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i ddefnyddio eich sgiliau, eich profiad a’ch angerdd i gefnogi cymunedau lleol, mudiadau elusennol a phobl sy’n gwneud gwahaniaeth ledled y wlad.

Fel ymddiriedolwr, fe fyddwch chi’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod Sefydliad Cymunedol Cymru yn parhau i gael ei lywodraethu’n dda, yn gynaliadwy yn ariannol ac yn canolbwyntio ar gyflawni ei amcanion elusennol. P’un a oes gennych chi brofiad blaenorol fel ymddiriedolwr neu eich bod chi’n ystyried eich rôl gyntaf ar fwrdd, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd a safbwyntiau amrywiol.

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethu cyffredinol a chyfeiriad strategol Sefydliad Cymunedol Cymru. Gan weithio ar y cyd â chyd-ymddiriedolwyr a’r tîm gweithredol, byddwch yn helpu i sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein cenhadaeth yn effeithiol, yn gyfrifol ac er budd gorau ein cymunedau.

Mae hon yn rôl wirfoddol, ddi-dâl, er y gellir ad-dalu treuliau rhesymol yn unol â’n polisïau. Am ragor o wybodaeth a manylion am sut i ymgeisio, lawr lwythwch y pecyn recriwtio isod os gwelwch yn dda.