Rhiannon

Swyddog Monitro Grantiau

Fy nghefndir

Mae’r rhan fwyaf o’m gwaith blaenorol wedi bod yn y celfyddydau – arddangos a marchnata mewn orielau, gwaith casgliadau mewn amgueddfeydd, rheoli preswyliadau artistiaid, ac ysgrifennu a dylunio ar gyfer cylchgrawn celf cyfoes. Mae gen i fy ymarfer celf fy hun hefyd, yn gwneud gwaith sain, fideo, gosod a pherfformio. Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn gweithio i’r GIG, ond roeddwn i eisiau newid, i weithio eto yn y sector gwirfoddol ac elusennol, a chael mwy o brofiad mewn sefydliad rhoi grantiau a datblygu cymunedol ehangach.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Rwy’n gweithio gyda’r tîm grantiau i gefnogi sefydliadau ac unigolion i roi adborth ar gynnydd a chanlyniadau o’r prosiectau a ariennir.

Holwch fi ynghylch...

Sut orau i ddweud wrthym am gerrig milltir eich prosiect a’r hyn rydych chi’n fwriadu ei wneud nesaf?

Pam rwy’n caru Cymru

Mae Cymru’n lle hael ac ysbrydoledig. Rwyf wedi byw yma dair gwaith bellach, rwy’n dal i gael fy nenu yn ôl. Rwy’n falch fy mod wedi dod o hyd i le i’w alw’n gartref.

Team members

Gweld y cyfan

Kira

Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata

Richard

Prif Weithredwr

Andrea

Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Prif Weithredwr)

Katy

Cyfarwyddwr Dyngarol