Pam mae dyngarwch lleol yng Nghymru yn creu effaith barhaol

I’r rhai sydd eisiau cefnogi cymunedau yng Nghymru, mae rhoi’n lleol yn cynnig ffordd bwerus o wneud gwahaniaeth gwirioneddol lle mae’r angen fwyaf.

Pam mae dyngarwch lleol yng Nghymru yn creu effaith barhaol

Yn aml, pan fydd pobl yn dewis rhoi i elusen, gall rhoddion gael eu cyfeirio at achosion cenedlaethol. Mae elusennau cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig a hanfodol, gan gefnogi miliynau o bobl a mynd i’r afael â materion mawr ledled y wlad, ond mae rhai o’r newidiadau mwyaf pwerus yn digwydd pan fydd rhoi yn digwydd yn lleol.

Boed hynny’n helpu pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd, cefnogi mentrau iechyd meddwl, ariannu mannau cymunedol neu gryfhau gwasanaethau lleol. Mae rhoi’n lleol yn sicrhau bod yr arian yn aros yn y gymuned yr oedd y rhoddwr yn bwriadu ei chefnogi.

 

Pam mae dyngarwch sy’n seiliedig ar le yn bwysig

Yn aml, gall cyllid elusennol ddiflannu o ardaloedd lleol i mewn i systemau cenedlaethol ehangach, lle mae perygl i gymunedau llai gael eu hanwybyddu.

Er bod modelau ariannu ar raddfa fawr yn bwysig, nid ydynt bob amser yn adlewyrchu’r realiti gwahanol sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru. Er enghraifft, mae anghenion ardaloedd gwledig yn debygol o fod yn wahanol iawn i anghenion teulu yng Nghasnewydd, person ifanc yn Wrecsam, neu berson hŷn yn y Cymoedd.

Mae dyngarwch sy’n seiliedig ar le yn helpu i sicrhau bod adnoddau’n cael eu cyfeirio lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae’n cefnogi sefydliadau ar lawr gwlad sy’n deall eu cymunedau, yn gwybod beth yw’r blaenoriaethau lleol, ac sy’n gallu ymateb yn gyflym pan fydd anghenion yn newid.

 

Cefnogi sefydliadau ar lawr gwlad yng Nghymru

Mae llawer o’r sefydliadau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn lleol yn grwpiau bach dan arweiniad y gymuned. Maent yn aml yn rhai dibynadwy, hygyrch ac wedi’u cysylltu’n agos gyda’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw.

Rydym yn ariannu grwpiau sy’n darparu cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, gweithgareddau ieuenctid a mentora, bwyd a chymorth ymarferol mewn cyfnodau o galedi, cyfleoedd i bobl hŷn gysylltu, gweithgareddau cynhwysol i bobl anabl a theuluoedd, a digwyddiadau diwylliannol, amgylcheddol a chymunedol.

Gall rhoi’n lleol fod yn drawsnewidiol i sefydliadau fel hyn, gan eu helpu i barhau â’u gwaith a chyrraedd mwy o bobl.

 

Y manteision i roddwyr

Nid yn unig y mae rhoi’n lleol yn fuddiol i gymunedau, gall hefyd fod yn hynod o werthfawr i roddwyr.

Drwy gefnogi achosion lleol yng Nghymru, mae effaith dyngarwch yn aml yn fwy gweladwy. Gall rhoddwyr weld canlyniadau’n fwy eglur, adeiladu perthnasoedd ystyrlon gyda’r achosion maent yn eu cefnogi, a deall sut mae eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth diriaethol.

I fusnesau, gall rhoi’n lleol hefyd gryfhau nodau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gan helpu sefydliadau i fuddsoddi yn y cymunedau lle mae eu staff, cwsmeriaid a rhanddeiliaid yn byw ac yn gweithio.

 

Adeiladu Cymru gryfach gyda’n gilydd

Os ydym eisiau cymunedau cryfach, tecach a mwy gwydn yng Nghymru, mae’n bwysig meddwl nid yn unig am faint rydym yn ei roi, ond hefyd ble rydym yn rhoi. Pan fydd haelioni’n aros yn lleol, mae’r effaith yn tyfu’n lleol hefyd.

 

 

Siaradwch gyda ni am ddyngarwch cymunedol yng Nghymru

Os hoffech ddarganfod sut y gallwch gefnogi cymunedau ledled Cymru, boed hynny am resymau personol, i adael etifeddiaeth neu i helpu i gyflawni eich nodau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs bellach.

Gall Sefydliad Cymunedol Cymru helpu i gysylltu eich haelioni gyda’r cymunedau a’r achosion sydd bwysicaf i chi.

Stories

Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru

Sut mae cyllid partneriaeth yn cefnogi cymunedau yng nghanolbarth Cymru

Mae stori Shakespeare Link yn cynnig enghraifft ggwych o sut y gall cydweithio rhwng cyllidwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid lleol greu effaith ystyrlon a pharhaol.

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Ymweld â Silkfutures: creadigrwydd, hyder a chymuned ar waith

Cronfa i Gymru

O Dde Cymru i Nashville

O Dde Cymru i Nashville

Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality