Arddangosfeydd Stuart Rendel

I gyd, a Powys

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon ar gau i geisiadau ar hyn o bryd. Mi fydd yn ail agor Ionawr 2026 Byddwn hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i'n Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.  

Mae Arddangosfeydd Stuart Rendel yn rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dechrau eu blwyddyn gyntaf o astudiaethau is-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth. Caiff ei ddyfarnu o Gronfa Ganolraddol a Thechnegol Sir Drefaldwyn, a gaiff ei rheoli gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Y grantiau sydd ar gael

  • Mae gwerth yr arddangosfeydd hyd at £1,000 y flwyddyn am hyd at 4 blynedd o’u hastudiaethau is-raddedig.

Dyfernir ceisiadau ar sail perfformiad academaidd (Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol) a’r achos a wnaed dros gymorth yn y ffurflen gais.

Pwy all wneud cais?

Rhaid bod y canlynol yn berthnasol i’r ymgeiswyr:

  • trigolion Sir Drefaldwyn
  • o dan 25 oed
  • wedi mynychu Ysgol Uwchradd yn Sir Drefaldwyn am o leiaf 2 flynedd
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Sut i wneud cais?

Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer arddangosfa, cwblhewch ffurflen gais.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

Arddangosfeydd Stuart Rendel

Lleihau pwysau meddwl myfyriwr prifysgol

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Waddol Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn