Ni faswn wedi gallu fforddio cost y cwrs dawns… ond mi orffenais efo’r radd uchaf erioed

Cronfa Waddol Gymunedol Caerdydd

Roedd person ifanc yn astudio yn Rubicon Dance ar y cwrs llawn amser a dyfarnwyd £500 iddi er mwyn ei galluogi i gwblhau ei blwyddyn olaf yn Rubicon a pharatoi ar gyfer ei hyfforddiant proffesiynol mewn ysgol ddawns.

“Mae’r grant wedi fy ngalluogi i barhau â’m hastudiaethau yn Rubicon Dance ar y cwrs llawn amser, gan ei fod wedi fy helpu i dalu ffioedd y cwrs ar adeg o galedi ariannol personol. Fel myfyriwr yn byw gyda mam sengl sydd ar incwm isel ac yn rhan o gynllun rheoli dyled, ni faswn wedi gallu fforddio cost y cwrs heb y grant hwn. Roedd hefyd angen i mi ystyried mynd i glyweliadau ar gyfer ysgolion dawns addysg uwch er mwyn datblygu fy hyfforddiant ar ôl Rubicon ac mae pob clyweliad yn costio £50.

Nid yn unig y gwnaeth y cwrs fy ngalluogi i wella fy nhechneg, fy stamina a’m dealltwriaeth anatomegol gan ein bod yn mynychu dosbarthiadau ffitrwydd, bale a dawns fodern bob dydd, ond roeddem hefyd yn astudio amrywiaeth o ffurfiau dawns gwahanol. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys jas, byrfyfyrio, gweithio gyda phartner, salsa, tango, cymeriad, botasen, jeif a dawnsio ‘kathak’, sy’n fy ngwneud yn ddawnsiwr amryddawn ac amrywiol iawn, rhywbeth roedd gan yr ysgolion dawns addysg uwch lawer o ddiddordeb ynddo pan oeddwn yn mynd i’r clyweliadau. Gwnes i gwblhau’r cwrs yn Rubicon ac ennill Rhagoriaeth* Ddwbl, y radd uchaf erioed yn hanes Cwrs Llawn Amser Rubicon.”

Stories

Sesiynau drama yn meithrin hyder yn Ninbych

Sesiynau drama yn meithrin hyder yn Ninbych

Cronfa Addysgol Dinbych a'r Ardaloedd Cyfagos

Cymunedau wedi’u cysylltu gan natur

Cymunedau wedi’u cysylltu gan natur

Cronfa Gwaddol Gymunedol Sir Ddinbych

Gofod i dyfu ar gyfer dysgu a chymuned

Gofod i dyfu ar gyfer dysgu a chymuned

Cronfa Ysgolion Caerdydd a'r Fro

Gan bobl ifanc, i bobl ifanc

Gan bobl ifanc, i bobl ifanc

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent