Cysylltu cymunedau drwy arddio

Cronfa i Gymru

Cysylltu cymunedau drwy arddio

“Mae pobl yn chwilio am ffyrdd o fod yn gysylltiedig. Garddio cymunedol ydy o, ac rydw i’n credu bod y rhan gymunedol ohono yr un mor bwysig â’r rhan garddio.”

Gyda £6,000 gan Gronfa i Gymru dros dair blynedd, mae Clwb a Gerddi Cymunedol yn yr Wyddgrug wedi creu lle diogel a chroesawgar i bobl o bob oed a gallu gysylltu trwy weithgareddau garddio, creadigrwydd a lles. 

Roedd llawer o bobl leol, gan gynnwys y rhai ag anableddau, heriau iechyd meddwl, neu anghenion dysgu ychwanegol, yn chwilio am ffyrdd ystyrlon o gysylltu ag eraill, meithrin hyder a theimlo’n rhan o rywbeth. 

Daeth clybiau garddio misol, dan arweiniad prif arddwr, â phobl ynghyd trwy gariad at natur. Ochr yn ochr â hyn, helpodd sesiynau celf, coginio, ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol i feithrin cyfeillgarwch, lleihau unigedd ac annog dysgu a gwneud penderfyniadau ar y cyd. 

Mae’r ardd wedi dod yn ganolfan dawel a chreadigol lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn. O ddysgu am goed i ddyfnhau arferion ymwybyddiaeth ofalgar, mae cyfranogwyr yn ennill sgiliau newydd ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu.

Stories

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Sgiliau a hyfforddiant ymarferol coetir

Sgiliau a hyfforddiant ymarferol coetir

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Tanio angerdd gydol oes dros bêl-fasged menywod

Tanio angerdd gydol oes dros bêl-fasged menywod

Cronfa Gwaddol Gymunedol Casnewydd