Lleihau unigedd a chynyddu creadigrwydd yn Wrecsam

Cronfa Deddf Eglwys Cymru Wrecsam (rhan o ymbarél Cronfeydd Wrecsam)

Lleihau unigedd a chynyddu creadigrwydd yn Wrecsam

“Y nod oedd creu cyfleoedd i gysylltu ag eraill – lleihau teimladau o unigedd neu allgáu, dysgu sgiliau newydd… a theimlo’n well am fod y tu allan, mewn cysylltiad â natur ac yn yr awyr agored.”

Diolch i gyllid gan Gronfa Deddf Eglwys Cymru Wrecsam, mae Gweithredu dros Blant yn Wrecsam wedi bod yn darparu sesiynau grŵp creadigol a therapiwtig i blant a phobl ifanc sy’n wynebu anawsterau emosiynol a chymdeithasol. 

Yn aml, mae’r plant a’r bobl ifanc a gefnogir gan Gweithredu dros Blant dan lawer o bwysau – cyfrifoldebau fel gofalwyr ifanc, deinameg teuluol heriol, anghenion iechyd meddwl a phryderon sy’n gysylltiedig ag ysgol. Roedd llawer wedi’u hynysu neu’n cael trafferth mynegi eu hunain, gyda mynediad cyfyngedig i leoedd lle gallent deimlo’n ddiogel, cael eu gwerthfawrogi, a’u clywed. 

Gyda grant o £3,000 sy’n cwmpasu tair blynedd o weithgaredd, mae Gweithredu dros Blant wedi cynnal 20 o sesiynau grŵp wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar lesiant emosiynol, creadigrwydd, a chysylltiad awyr agored. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gwneud smwddis, gwnïo, tyfu a chynaeafu bwyd a chrefftau grŵp. 

Un ychwanegiad allweddol oedd prynu tŷ gwydr, cefnogi therapi garddwriaethol rheolaidd a chynnig lle i bobl ifanc ymlacio, canolbwyntio, a theimlo’n fedrus. Cyflwynwyd sesiynau chwarae therapiwtig hefyd, gan helpu cyfranogwyr i feithrin sgiliau cymdeithasol a hunan-barch mewn amgylchedd diogel. 

Mae’r prosiect wedi helpu pobl ifanc i deimlo’n fwy hyderus, yn llai ynysig ac mewn rheolaeth well o’u hemosiynau.

Stories

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Sgiliau a hyfforddiant ymarferol coetir

Sgiliau a hyfforddiant ymarferol coetir

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Cysylltu cymunedau drwy arddio

Cysylltu cymunedau drwy arddio

Cronfa i Gymru