Cronfa Sir Gaerfyrddin
I gyd, a Sir Gar
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Bydd y gronfa hon yn ailagor ddydd Llun 13 Ebrill (yn amodol ar newid). Cofrestrwch i'n cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol.
Mae Cronfa Sir Gaerfyrddin yn rhoi cymorth i’r themâu canlynol:
- Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a phroblemau gwledig
- Prosiectau sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth hŷn i leihau unigrwydd
- Grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi’r diwydiant ffermio
- Prosiectau sy’n helpu pobl sydd ag iechyd meddwl gwael i fagu hyder a gwydnwch er mwyn ehangu eu gorwelion
- Prosectau a fydd yn gweithio i wella a chodi dyheadau plant a phobl ifanc difreintiedig
Grantiau ar gael
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau o hyd at £500 a £2000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd.
Pwy all wneud cais?
- Elusennau, grwpiau a sefydliadau nid er elw sy’n rhedeg prosiectau a gweithgareddau yn Sir Gaerfyrddin a’r cyffiniau er budd eu cymuned leol (e.e. clybiau ar ôl ysgol, grwpiau ffermwyr ifanc, clybiau cinio, caffis cofio, gwasanaethau cyfeillio ac ati).
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.
Cofiwch:
- Ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein.
- Llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau.
- Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill.
- Rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.
Cliciwch yma
Adeiladu bywydau newydd i bobl ifanc
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:
