Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies
Ceredigion, I gyd, a Sir Gar
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn rhoi cymorth i’r canlynol:
- Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a phroblemau gwledig
- Prosiectau sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth hŷn i leihau unigrwydd
- Grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a dysgu’r Iaith Gymraeg, Diwylliant Cymreig a Threftadaeth Gymreig
- Magu hyder ac ehangu gorwelion unigolion nad oes ganddynt lawer o adnoddau
- Unigolion talentog er mwyn iddynt ddilyn eu dyheadau e.e. bwrsariaethau, cyfarpar, offerynnau
Y grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion, grwpiau cymunedol, elusennau a phrosiectau lleol wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000
Lle y ceir achos eithriadol ar gyfer cymorth, gellir dyfarnu grantiau o hyd at £10,000.
Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
Darllenwch drwy’r adrannau ar y Pecyn Cymorth Grantiau cyn gwneud cais – Grants Toolkit – Community Foundation Wales
Pwy all wneud cais?
Unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn yr Ardaloedd Allbwn Uwch (LSOAs) haen isaf fel y’u gelwir yn fwy cyffredin:
Yn Sir Gaerfyrddin
- Cenarth
- Cynwyl Elfed 1
- Llanfihangel ar Arth 1 a 2
- Llangeler
- Llanybydder 1 a 2
Yng Ngheredigion
- Aberporth 1 a 2
- Beulah
- Capel Dewi
- Aberteifi Mwldan
- Aberteifi Rhyd y Fuwch
- Aberteifi Teifi, Llandyfriog
- Tref Llandysul
- Llanwenog
- Penbryn, Pen-parc 1 a 2
- Troedyraur
Mae’r gronfa’n cynnwys Trefi Aberteifi – Aberporth, Newcastle Emlyn, Llandysul a Llanybydder ynghyd â’r pentrefi cyfagos.
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.
Cofiwch:
- ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
- nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
- rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
- rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol
Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.
Ffurflen gais ar gyfer grwpiauFfurflen gais unigolGwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Safonau Gofynnol

Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: