Yr hyder newydd ddaeth o daith ysgol wedi ei hariannu

Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch

Dyfarnwyd grant o £408 i un rhiant a gofalwr efeilliaid i helpu i anfon y ddau blentyn ar drip ysgol breswyl i Langrannog.

“Gyda’r grant, roeddwn yn gallu prynu gliniadur a oedd wedi helpu fy mab i ddechrau yn yr ysgol ac wedi rhoi’r hyder iddo ddal i fyny gyda gwaith cartref ac ymdopi yn ei ddosbarthiadau. Mae hefyd yn helpu i ddangos i mi beth mae wedi bod yn ei wneud.

Taith breswyl gyntaf fy efeilliaid oedd y daith i Langrannog y gwnaeth y grant fy helpu i’w ariannu. Mae clyw y ddau yn broblem ac mae gan un ohonynt broblemau gyda’i goluddyn, felly mae’r daith hon wedi cynnig cyfle na fyddent wedi’i gael fel arfer. Mae’r daith ysgol wedi helpu gyda’u datblygiad corfforol, wedi rhoi hwb i’w hyder ac wedi’u galluogi i fod yn rhan o dîm. Mae wedi helpu i ddangos iddynt nad ydynt yn wahanol i’w ffrindiau yn eu dosbarth.”

Stories

Helpu trigolion agored i niwed i wella

Helpu trigolion agored i niwed i wella

Cronfa Cymorth mewn Angen Penarlâg a'r Cylch

O fyfyriwr i barafeddyg

O fyfyriwr i barafeddyg

Cronfa Addysgol Dinbych a'r Ardaloedd Cyfagos

Sesiynau drama yn meithrin hyder yn Ninbych

Sesiynau drama yn meithrin hyder yn Ninbych

Cronfa Addysgol Dinbych a'r Ardaloedd Cyfagos

Cymunedau wedi’u cysylltu gan natur

Cymunedau wedi’u cysylltu gan natur

Cronfa Gwaddol Gymunedol Sir Ddinbych