Tanio angerdd gydol oes dros bêl-fasged menywod

Cronfa Gwaddol Gymunedol Casnewydd

Tanio angerdd gydol oes dros bêl-fasged menywod

“Mae Newport Aces fel cartref arall i mi. Rydw i wedi creu cymaint o atgofion a chyfeillgarwch gwych drwy gydol y flwyddyn.

“Mae’r cyllid wedi cael effeithiau enfawr ar unigolion a’r clwb cyfan. Fel rhywun sydd â phrofiad cyfyngedig o ysgrifennu adroddiadau, mae’r broses hon yn hawdd iawn i’w defnyddio ac yn syml i’w chwblhau.”

Gyda chefnogaeth Cronfa Gwaddol Gymunedol Casnewydd, mae Clwb Pêl-fasged Newport Aces wedi dechrau adeiladu tîm pêl-fasged cystadleuol cyntaf Casnewydd i fenywod, gan ddarparu sesiynau rheolaidd i ferched a menywod a datblygu eu sgiliau, eu ffitrwydd a’u hyder. 

Yn hanesyddol, ychydig o gyfleoedd sydd wedi bod gan ferched a menywod yng Nghasnewydd i gymryd rhan mewn pêl-fasged gystadleuol. Aeth Newport Aces ati i newid hynny, gan rymuso chwaraewyr lleol trwy ymgysylltu, gwaith tîm a chymuned. Ariannodd y grant o £2,000 sesiynau rheolaidd i dros 25 o ferched a 15 o fenywod, gan gefnogi eu lles corfforol a meddyliol, a meithrin ymdeimlad cryf o fod yn chwaraewr tîm. Ers hynny, mae dwy chwaraewr 13 oed wedi treialu ar gyfer tîm cenedlaethol Cymru; mae menywod sy’n cydbwyso gwaith a theulu bellach yn chwarae’n gystadleuol, gan dyfu mewn gwydnwch a sgiliau. 

Mae’r prosiect wedi sefydlu llwybr i bêl-fasged i fenywod a merched lleol, lle nad oedd un yn bodoli o’r blaen. Mae hefyd wedi hyfforddi gwirfoddolwyr mewn hyfforddi a dyfarnu, gan ddarparu profiad gyrfa a chyfleoedd â thâl. 

Stories

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Hwyl, bwyd a sgiliau ar gyfer y dyfodo

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Modelau rôl pwerus yn ysbrydoli dyfodol newydd

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Sgiliau a hyfforddiant ymarferol coetir

Sgiliau a hyfforddiant ymarferol coetir

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Cysylltu cymunedau drwy arddio

Cysylltu cymunedau drwy arddio

Cronfa i Gymru